kowydd merch
1 Digiais am na chawn degav
2 di hvn hael fvn fvr hwyl fav
3 dyfod dan wrddion defyll
4 bid i chael dail bedw achyll
5 kan hawdd fyd ar hyd y rriw
6 y winllan bvn ewynlliw
7 tvchan yn daer wrth gaer galch
8 a griddfan am eigr rvddfalch
9 pan glybvr fvn harlyn hyd
10 gwynfan trysdan rrag trisdyd
11 llariaidd i rroes drwy foes fyn
12 llef avr ar i llaw forwyn
13 y mae draw mewn anghyflwr
14 yn ywinllan gwynfan gwr
15 myfi a af mwy o ofal
16 morwyn deg amvrain dal
17 drwy wydring draw i edrych
18 trvan oer mewn tro a nych
19 pa drichiolaeth gaeth geithliw
20 y sydd yn y gwinwydd gwiw
21 vn dvriaid eneidrroen
22 enaid em hownaid ymhoen
23 pa vn wyd yn pynydiaw
24 dy glwyf mewn od a glaw
25 dy fardd poenedig ddigys
26 dewr fawr wyf mewn dirfawr rys
27 dos imaith rrag dy somi
28 dilwydd daith nev dy ladd di
29 oernos awelych arnaf
30 y myd awr ym? o daf
31 [720] On i wypwy klydwy clod
32 pwy drechaf myn peder vchod
33 ai ti ai mi o mafael
34 ai mi ai ti ymyd tael
35 glan oedd im enaid o glod
36 fvn avr eirian farw erod
37 gollwng dy fardd a dwyllwyd
38 i mie ddyn ir man i ddwyd
39 nev ddyred och na dderwyf
40 yn y man ddyn ir man iddwyf
41 ni wnaf ddyn trvan anoeth
42 y rrvn or ddav mewn rrin ddoeth
43 po beth a gais gwr o bell
44 oerfas dwf ger fy sdafell
45 keissiaw heb gvr drwyr mvr maen
46 dy weled loywged liwgaen
47 pa ddysged nev pa ddisgwyl
48 i ddwyd y gwas gwiwlas gwyl
49 dwysgall deall am diavr
50 disgwyl llvn dyn dwysgall avr
51 pa ryw orllwyn mewn llwyni
52 yn dy dy dail yn enav di
53 gorllwyn dyn mwyn dawn ym wyd
54 nid gorllwyn gwraig y garllwyd
Dauidd ap glm ai kant